Adnoddau

Ailosod

Pecyn cymorth

Pecyn Cymorth Artistiaid – Gallery Climate Coalition

Mae Pecyn Cymorth Artistiaid y GCC yn dwyn ynghyd syniadau ymarferol, camau gweithredu ac adnoddau i gefnogi artistiaid i wynebu'r argyfwng hinsawdd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn cynnwys templed Atodiad Cyfrifoldeb Amgylcheddol.
  • Yn cynnwys rhestr fer o'r camau y gallwch eu cymryd i sicrhau’r effaith fwyaf.
(yn agor mewn tab newydd)

Pecyn cymorth

Llunio Cynllun Datgarboneiddio – Historic England

Pecyn i gefnogi sefydliadau diwylliannol a threftadaeth sy'n gyfrifol am adeiladau hanesyddol i lywio prosesau a chamau datgarboneiddio eu hadeiladau.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Canllawiau cam wrth gam i greu cynllun datgarboneiddio ar gyfer adeilad hanesyddol.
  • Yn cynnwys templedi, taflenni ffeithiau, geirfa ac astudiaethau achos.
(yn agor mewn tab newydd)

Pecyn cymorth

Pecyn Cymorth Siarad am Gynaliadwyedd – Indigo

Fersiwn beilot o becyn cymorth a luniwyd i helpu sefydliadau diwylliannol i lywio anawsterau cyfathrebu eu mentrau cynaliadwyedd â'u cynulleidfaoedd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Canllawiau ymarferol, cam wrth gam ar sut i gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol wrth gyfathrebu.
  • Wedi'u datblygu'n benodol ar gyfer y sector diwylliant.
  • Yn cynnwys llyfr gwaith i'ch tywys trwy bob cam.
(yn agor mewn tab newydd)

Pecyn cymorth

Cyfrifiannell Carbon – Gallery Climate Coalition

Mae Cyfrifiannell Carbon GCC yn offeryn ar-lein am ddim i amcangyfrif allyriadau nwyon tŷ gwydr sefydliadau a phrosiectau.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Wedi'i theilwra ar gyfer sefydliadau a phrosiectau'r celfyddydau.
  • Yn cynnwys opsiynau ar gyfer dirnadaeth gynhwysfawr neu gyfrifiadau cyflym i lywio penderfyniadau.
  • Yn eich helpu i ddeall a rheoli eich effaith ar yr amgylchedd yn effeithiol.
(yn agor mewn tab newydd)

Pecyn cymorth

Offer Creadigol ar gyfer yr Hinsawdd – Julie’s Bicycle

Offer rhad ac am ddim a gynlluniwyd ar gyfer sector y celfyddydau a diwylliant i gefnogi mesur, tracio a chyfathrebu effeithiau amgylcheddol.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Canllawiau ac offer wedi'u teilwra ar gyfer sector y celfyddydau a diwylliant.
  • Yn addas i unigolion a sefydliadau, fel ei gilydd.
  • Yn addas ar gyfer mesur allyriadau cyffredinol neu brosiectau unigol.
(yn agor mewn tab newydd)