Adnoddau

Canllaw

Gweithredu ar yr hinsawdd ar draws ystad sector cyhoeddus Cymru – Llywodraeth Cymru

Canllawiau ar ddatgarboneiddio a gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer adeiladau a thir y sector cyhoeddus.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Mae'n ceisio mynd i'r afael â heriau cyffredin sy'n wynebu amrywiaeth o gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
  • Mae'n cynnwys rhestrau o gamau gweithredu clir ar draws sawl maes o fewn datgarboneiddio a gwydnwch hinsawdd.
  • Cefnogir y camau gweithredu gan ddolenni i adnoddau ac astudiaethau achos.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Canllawiau ar gyfer Llyfrgelloedd Gwyrdd – Llawlyfr Gweithredu Cam wrth Gam – IFLA

Llwybr cam wrth gam i gefnogi llyfrgelloedd ledled y byd i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn troi cysyniadau cynaliadwyedd strategol yn fesurau hyblyg, cyraeddadwy.
  • Yn addasadwy ar gyfer llyfrgelloedd o bob math a maint - cyhoeddus, academaidd, ysgol, cenedlaethol, ac arbennig.
  • Yn cynnwys rhestr wirio cychwyn cyflym gydag enghreifftiau ymarferol.
(yn agor mewn tab newydd)

Pecyn cymorth

Pecyn Cymorth Artistiaid – Gallery Climate Coalition

Mae Pecyn Cymorth Artistiaid y GCC yn dwyn ynghyd syniadau ymarferol, camau gweithredu ac adnoddau i gefnogi artistiaid i wynebu'r argyfwng hinsawdd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn cynnwys templed Atodiad Cyfrifoldeb Amgylcheddol.
  • Yn cynnwys rhestr fer o'r camau y gallwch eu cymryd i sicrhau’r effaith fwyaf.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Canllaw i Gamau Gweithredu Amgylcheddol ar gyfer Gweithwyr Llawrydd Creadigol –Culture for Climate Scotland

Canllawiau ar y camau cyntaf y gall gweithwyr llawrydd creadigol eu cymryd tuag at weithredu amgylcheddol.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn addas ar gyfer rhai ar ddechrau eu taith o weithredu amgylcheddol a gweithredu ar yr hinsawdd.
  • Yn rhoi cyngor ar gamau y gallwch eu cymryd a dolenni i adnoddau pellach.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Canllawiau ar Gyfiawnder Hinsawdd ar gyfer Sefydliadau Diwylliannol – Culture for Climate Scotland

Canllawiau sy'n esbonio beth yw cyfiawnder hinsawdd a sut mae'n berthnasol i gynnal sefydliadau diwylliannol a'r celfyddydau.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn esbonio'r rhyngdoriad rhwng y newid yn yr hinsawdd a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Yn cynnwys camau y gallwch eu cymryd i redeg eich sefydliad mewn ffordd hinsawdd-gyfiawn.
  • Yn darparu cyngor ar faterion penodol o ran cyfiawnder hinsawdd.
(yn agor mewn tab newydd)

Offeryn data

Rhagamcaniadau Hinsawdd – Llywodraeth Cymru

Climate projections for each Welsh county.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Dewch i ddeall sut y rhagwelir y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar eich ardal.
  • Yn darparu llwyfan data a rennir ar gyfer aelodau'r cyhoedd ac awdurdodau lleol.
(yn agor mewn tab newydd)

Hwb adnoddau

Adnoddau Parodrwydd ar gyfer y Dyfodol – Yn cael eu curadu gan Museums Development North a Mortice Consulting

A collection of resources to support museums with adapting to climate risk and preparing for emergency.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn cael eu curadu ar gyfer y sector amgueddfeydd.
  • Yn dwyn ynghyd amrywiaeth eang o gyngor ac adnoddau sy'n bod eisoes.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Canllawiau ar Addasu i’r Hinsawdd – yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Canllawiau i sefydliadau treftadaeth i helpu safleoedd i fod yn fwy gwydn rhag newid hinsawdd, ac i gefnogi timau i wneud penderfyniadau yn wyneb peryglon yr hinsawdd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn cynnwys gwybodaeth am fathau gwahanol o asedau a gweithgarwch cysylltiedig ag ystadau hanesyddol.
  • Yn darparu tablau peryglon, effeithiau ac opsiynau ar gyfer bygythiadau posibl yn sgil yr hinsawdd.
  • Yn darparu astudiaethau achos a manylion opsiynau a throthwyon ar gyfer rhoi addasiadau ar waith.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Canllaw i Gostau’r Hinsawdd – London Climate Ready Partnership

A getting started guide to understanding the costs and savings of climate change impacts and adaptation.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Dull syml, cyson o asesu'r agweddau ariannol ar y risg o ran yr hinsawdd.
  • Datblygwyd ar gyfer Llundain, ond mae'r fframwaith yn drosglwyddadwy.
  • Yn addas i bob math o sefydliad a sector ac yn hygyrch i rai nad ydynt yn arbenigo ar yr hinsawdd.
(yn agor mewn tab newydd)

Offeryn data

Climate Hazards England, Wales and Northern Ireland 2023 – yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Data cyhoeddus ar berygl hinsawdd cyfredol ac yn y dyfodol a gynhyrchwyd gan brosiect mapio risg hinsawdd a gomisiynwyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Setiau data sy'n dangos y risg gyfredol a'r risg yn y dyfodol i safleoedd ledled y DU.
  • Yn cwmpasu gorboethi a lleithder, difrod gan stormydd, methiant llethrau a gwthiad pridd.
  • Yn galluogi sefydliadau i gynllunio ar gyfer risgiau o ran yr hinsawdd yn y dyfodol.
(yn agor mewn tab newydd)

Offeryn data

Gwiriwr Risg Erydu Arfordirol – Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth a fydd yn dweud wrthych beth yw'r risg byrdymor, tymor canolig a hirdymor o erydu arfordirol ar gyfer ardal yng Nghymru.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn chwiliadwy yn ôl cod post ac i'w weld ar fap.
(yn agor mewn tab newydd)

Offeryn data

Gwiriwr Risg Llifogydd – Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth a fydd yn dweud wrthych beth yw'r risg o lifogydd ar gyfer ardal yng Nghymru.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn chwiliadwy yn ôl cod post ac i'w weld ar fap.
  • Yn cwmpasu risg llifogydd o afonydd, o'r môr, o ddŵr wyneb ac o gyrsiau dŵr bach.
(yn agor mewn tab newydd)