Adnoddau

Pecyn cymorth

Llunio Cynllun Datgarboneiddio – Historic England

Pecyn i gefnogi sefydliadau diwylliannol a threftadaeth sy'n gyfrifol am adeiladau hanesyddol i lywio prosesau a chamau datgarboneiddio eu hadeiladau.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Canllawiau cam wrth gam i greu cynllun datgarboneiddio ar gyfer adeilad hanesyddol.
  • Yn cynnwys templedi, taflenni ffeithiau, geirfa ac astudiaethau achos.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeilaldau Hŷn a Thraddodiadol – Cadw

Arweiniad i'r hyn y mae angen eu hystyried wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau hŷn a thraddodiadol.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Defnyddiol i gynllunio, cydlynu a gosod ôl-ffitiadau ynni-effeithlon mewn adeiladau traddodiadol.
  • Yn cyfuno technegau, treftadaeth a chanllawiau ymarferol sy'n gyson â safonau cenedlaethol.
  • Yn cefnogi Dyfarniad Lefel 3 yn y Mesurau Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Adeiladau Hŷn a Thraddodiadol.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Llifogydd ac Adeiladau Hanesyddol yng Nghymru – Cadw

Arweiniad ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd a chyngor ar sut i weithredu yn ystod ac ar ôl llif er mwyn lleihau’r difrod.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Cyngor cam wrth gam i asesu'r risg o lifogydd ac amddiffyn adeiladau hanesyddol.
  • Canllawiau ymarferol ar gyfer paratoi, ymateb ac adfer heb niweidio treftadaeth.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Ynni Adnewyddadwy a’ch Adeilad Hanesyddol – Cadw

Canllaw arfer gorau o ran gosod systemau microgynhyrchu.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn esbonio opsiynau microgynhyrchu ac arweiniad clir ar eu defnydd mewn adeiladau hanesyddol.
  • Yn esbonio opsiynau microgynhyrchu ac arweiniad clir ar eu defnydd mewn adeiladau hanesyddol.
    Yn cydbwyso buddion ynni adnewyddadwy ag amddiffyn treftadaeth a lleoliadau.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Cynnal a Chadw! – Cadw

Cyngor gan Cadw ar gynnal a chadw adeiladau i leihau costau, a gwella'u heffeithlonrwydd ynni a'u gallu i oddef effeithiau'r newid yn yr hinsawdd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Canllawiau ymarferol mewn iaith blaen i atal difrod costus i adeiladau hanesyddol.
  • Yn cysylltu cynnal a chadw â chynaliadwyedd, effeithlonrwydd ynni a gwrthsefyll yr hinsawdd.
(yn agor mewn tab newydd)

Pecyn cymorth

Pecyn Cymorth Siarad am Gynaliadwyedd – Indigo

Fersiwn beilot o becyn cymorth a luniwyd i helpu sefydliadau diwylliannol i lywio anawsterau cyfathrebu eu mentrau cynaliadwyedd â'u cynulleidfaoedd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Canllawiau ymarferol, cam wrth gam ar sut i gynnwys cynaliadwyedd amgylcheddol wrth gyfathrebu.
  • Wedi'u datblygu'n benodol ar gyfer y sector diwylliant.
  • Yn cynnwys llyfr gwaith i'ch tywys trwy bob cam.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Allgymorth ar yr Hinsawdd

Casgliad o sesiynau briffio, adnoddau a phecynnau cymorth seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ymgyrchwyr, llunwyr polisïau a chyfathrebwyr.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Cyngor defnyddiol ar sut i siarad â'ch rhanddeiliaid am faterion yn ymwneud â'r hinsawdd.
  • Cyngor ar gyfer adrodd straeon sy'n taro deuddeg i bobl â gwerthoedd a chefndiroedd gwahanol.
(yn agor mewn tab newydd)

Hwb adnoddau

Adnoddau Llyfrgelloedd Gwyrdd – CILIP

Ysbrydoliaeth, adnoddau dysgu a deunydd cynorthwyol i gipio a rhannu arfer gorau ledled y sector llyfrgelloedd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Rhestr o adnoddau a mentrau wedi'u teilwra ar gyfer llyfrgelloedd.
  • Yn cynnwys astudiaethau achos a syniadau ar gyfer gweithgareddau cynaliadwyedd.
  • Mae Rhwydwaith y Llyfrgelloedd Gwyrdd yn gymuned ar-lein weithredol i rannu gwybodaeth a syniadau.
(yn agor mewn tab newydd)

Hwb adnoddau

Hwb Adnoddau – Bafta Albert

Cyfres gynhwysfawr o offer, canllawiau a thempledi i helpu'r diwydiant sgrin i fesur a lleihau ei effaith ar yr amgylchedd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Yn cynnwys llwyfan tracio allyriadau carbon ar y we.
  • Yn darparu syniadau datgarboneiddio i'w rhoi ar waith ac ardystiad ar gyfer cynyrchiadau addas.
  • Bydd pecyn cymorth wedi'i ddiweddaru yn lansio ym mis Medi 2026.
(yn agor mewn tab newydd)

Canllaw

Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb Cymdeithasol – Busnes Cymru

Adnoddau i fusnesau Cymru gymryd camau rhagweithiol tuag at wella'u cynaliadwyedd a dod yn fusnesau cyfrifol.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Cyngor wedi'i deilwra i fusnesau Cymru ac sy'n cydymffurfio â deddfwriaeth Cymru.
  • Yn cynnwys canllawiau a dolenni i gyrff rheoleiddio ac elusennau perthnasol yng Nghymru.
(yn agor mewn tab newydd)

Hwb adnoddau

Hwb Hinsawdd Amgueddfeydd – Cymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol

Casgliad o adnoddau dibynadwy, gwyddonol gywir, cyfredol y gellir gweithredu arnynt i sefydliadau treftadaeth, wedi'u dewis gan arbenigwyr cynaliadwyedd.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Wedi'u teilwra ar gyfer sefydliadau treftadaeth.
  • Yn cael eu curadu gan arbenigwyr y sector ac arbenigwyr ar gynaliadwyedd.
  • Informed by AIM and NMDC members' needs.
(yn agor mewn tab newydd)

Hwb adnoddau

Hwb Adnoddau – Julie’s Bicycle

Casgliad o adnoddau i helpu'r gymuned greadigol i arwain gweithredu ar yr hinsawdd; yn cynnwys astudiaethau achos, diweddariadau ar bolisïau, a mwy.

Pam rydyn ni'n hoffi'r adnodd hwn

  • Llyfrgell gynhwysfawr o dros 250 o adroddiadau, canllawiau, astudiaethau achos a thempledi.
  • Gellir hidlo'r cynnwys yn ôl disgyblaeth, maes ffocws neu gam gweithredu.
  • Yn cynnwys gofod pwrpasol ar gyfer adnoddau â ffocws ar gyfiawnder.
(yn agor mewn tab newydd)