Am ddiwylliant a hinsawdd Cymru
Wedi’i datblygu fel rhan o Raglen Argyfwng Hinsawdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, menter rwydweithio newydd i gefnogi unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y sectorau diwylliant a threftadaeth i gydweithio wrth fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yw Diwylliant a Hinsawdd Cymru.
Agweddau a dulliau sector diwylliant Cymru
87% o sefydliadau diwylliannol o'r farn bod gan y sector sgiliau unigryw i ymgysylltu â'r cyhoedd am yr hinsawdd a natur.
£100 miliwn yn ofynnol i'w fuddsoddi, o bosibl, i ddatgarboneiddio adeiladau diwylliannol yng Nghymru.
74% o sefydliadau'n teimlo'n hyderus wrth ymgysylltu â chynulleidfaoedd ynghylch argyfyngau hinsawdd a natur.
Ein cenhadaeth
Rydym yn bodoli i gefnogi'r sector diwylliant a threftadaeth yng Nghymru i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur ar y cyd.