Lansiad Gwefan Diwylliant a Hinsawdd Cymru yn yr Eisteddfod

Newyddion

Ar 6 Awst lansiodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wefan a llwyfan rhwydweithio newydd sbon, Diwylliant a Hinsawdd Cymru, i helpu sector diwylliant a threftadaeth Cymru i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Cafodd yr adnodd newydd hwn, wedi’i ddatblygu fel rhan o Raglen Argyfwng Hinsawdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ei gyflwyno mewn digwyddiad rhwydweithio ar stondin Llywodraeth Cymru ar faes yr Eisteddfod. Roedd y digwyddiad yn cynnwys perfformiad gan y cantorion a chyfansoddwyr Eve Goodman a SERA (Sarah Zyborska), wedi’i ddilyn gan sgwrs wedi’i gadeirio gan Owen Griffiths, artist ac Arweinydd Cydweithrediad, LocalMotion Caerfyrddin gyda Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Eve Goodman a SERA ar themâu’r hinsawdd, natur, cyfiawnder, iaith a lle.

{%ALT_TEXT%}

{%CAPTION%}

Nod Diwylliant a Hinsawdd Cymru yw cefnogi unigolion a sefydliadau ar draws y sector i gydweithio i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’n darparu mynediad at wybodaeth ac adnoddau hyfforddi, digwyddiadau, astudiaethau achos, a gofod fforwm ar-lein i rannu syniadau a chydweithio.

Wedi’i ddatblygu mewn ymateb i argymhelliad adroddiad ymchwil Llywodraeth Cymru i’r sector diwylliant yng Nghymru a’r argyfyngau hinsawdd a natur, mae’n cefnogi cyflawni Uchelgais 16 o Flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Diwylliant.

Meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru rol bwysig i helpu pobl i gael gwybodaeth gywir y gallant ymddiried ynddi am newid hinsawdd.
Mae yna hefyd gymaint o wybodaeth, hanes a threftadaeth anniriaethol a all ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yn ein casgliadau. Felly, mae gweithredu hinsawdd yn cyd-fynd â’n cenhadaeth graidd i ddiogelu, ehangu a datblygu’r casgliadau, a galluogi pobl i fwynhau a gwerthfawrogi’r cynnwys.”

Dywedodd Judith Musker Turner, Arweinydd Rhaglen Argyfwng Hinsawdd:

“Bydd Diwylliant a Hinsawdd Cymru yn ei gwneud hi’n haws i bobl sy’n gweithio yn y sectorau diwylliant a threftadaeth gymryd camau ar y cyd i ddiogelu diwylliant a threftadaeth Cymru rhag newid yn yr hinsawdd a bydd yn codi proffil yr holl waith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud. Mae gan y sector diwylliant bŵer unigryw i ysbrydoli newid ac i ddod â phobl at ei gilydd, ac mae’n bwysig bod hyn yn cael ei gydnabod yn ehangach.”

Fel sefydliad blaenllaw ym maes cynaladwyedd amgylcheddol – gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru – mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio tuag at y nod o fod yn garbon niwtral erbyn 2028 a dileu’r defnydd o nwy yn llwyr a lleihau allyriadau carbon.

Yn ddiweddar, mae’r Llyfrgell wedi trawsnewid ei hystâd hanesyddol trwy raglen ôl-ffitio uchelgeisiol sy’n lleihau ei hôl troed carbon yn sylweddol wrth sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy. Roedd y mesurau yn cynnwys gosod technolegau arloesol fel pympiau gwres aer a daear, 1,622 o baneli solar, a gweithredu system rheoli adeiladau deallus i wella effeithlonrwydd ynni.

Yn ogystal â sefydlu rhwydwaith Diwylliant a Hinsawdd Cymru, mae’r Rhaglen Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi:

  • prosiect peilot i helpu 3 sefydliad diwylliannol sydd wedi’u lleoli mewn adeiladau hanesyddol i ddatblygu cynlluniau datgarboneiddio
  • rhaglen hyfforddi i gefnogi’r gweithlu diwylliannol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithredu yn yr hinsawdd
  • cyfleoedd i bobl sy’n gweithio ym maes diwylliant a threftadaeth yng Nghymru rannu dysgu ac arfer gorau ar yr hinsawdd gyda chydweithwyr o bob cwr o’r DU.